EB 34

 

Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Ymgynghoriad ar y Bil Addysg (Cymru)

Crynodeb o'r Gwaith Allgymorth

Cefndir

Mae'r ddogfen hon yn rhoi crynodeb o'r gwaith Allgymorth a wnaed fel rhan o ymgynghoriad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar y Bil Addysg (Cymru).

Methodoleg

Fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Bil Addysg (Cymru), cynhaliodd y tîm Allgymorth dri ymarfer casglu tystiolaeth ar ran y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc. Roedd yr ymarferion ymgysylltu'n cynnwys dwy set o grwpiau ffocws ac arolwg.

Roedd rhaglenni'r grwpiau ffocws yn canolbwyntio ar ddwy agwedd allweddol ar y Bil Addysg (Cymru), sef:

-          y darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â'r asesiad ôl-16 o anghenion o ran addysg a hyfforddiant, a'r;

-          darpariaethau sy'n ymwneud â Chyngor arfaethedig y Gweithlu Addysg a'r broses o gofrestru a rheoleiddio athrawon a'r gweithlu ehangach.

Roedd yr arolwg yn cynnwys holiaduron ar-lein ac ar bapur a oedd yn gofyn i gyfranogwyr roi eu barn ar effaith ganfyddedig cynigion Llywodraeth Cymru i safoni dyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol yng Nghymru.


 

Ystadegau Allweddol

430 Cyfanswm nifer yr ymatebion a gafwyd i'r arolwg

35 Cyfanswm nifer y cyfranogwyr grwpiau ffocws

582 Cyfanswm nifer y sylwadau a wnaed yn yr arolwg

6 Cyfanswm nifer y grwpiau ffocws a gynhaliwyd

Cyfanswm Nifer y Cyfranogwyr yn ôl Rhanbarth

Mae'r diagram hwn yn dangos cyfanswm nifer y bobl yr ymgysylltwyd â hwy'n uniongyrchol fel rhan o ymchwiliad y Bil Addysg (Cymru).

Dadansoddiad 
 Cyfanswm nifer y cyfranogwyr grwpiau ffocws yn ôl rhanbarth:
 
 - Gogledd Cymru: 11
 - Canolbarth a Gorllewin Cymru: 7 
 - Gorllewin De Cymru: 1 
 - Canol De Cymru: 11
 - Dwyrain De Cymru: 5
 
 Cyfanswm nifer yr ymatebwyr i'r arolygon papur yn ôl rhanbarth:
 
 - Gogledd Cymru: 73
 - Canolbarth a Gorllewin Cymru: 9
 - Gorllewin De Cymru: 0
 - Canol De Cymru: 2
 - Dwyrain De Cymru: 0
 
  


 

Tabl Cynnwys

Crynodeb o'r Ymatebion i Arolwg y Bil Addysg (Cymru).........................................................4

 

Crynodeb o'r Dystiolaeth o'r Grwpiau Ffocws: Cofrestru'r Gweithlu Addysg...........................................................................................................................................13

 

Crynodeb o'r Dystiolaeth o'r Grwpiau Ffocws: Darparu Anghenion Addysgol Arbennig ôl-16...................................................................................................................................................18

 


 

Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Ymgynghoriad ar y Bil Addysg (Cymru)

Crynodeb o'r Ymatebion i Arolwg y Bil Addysg (Cymru)

Cefndir

Mae'r ddogfen hon yn rhoi crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r arolwg ar y Bil Addysg (Cymru) a gynhaliwyd gan y tîm Allgymorth.[*]

Methodoleg

Fel rhan o ymgynghoriad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar y Bil Addysg (Cymru), cynhaliodd y tîm Allgymorth arolwg Cymru gyfan ar y darpariaethau a geir o fewn y Bil i roi'r pŵer i Weinidogion Cymru safoni dyddiadau tymhorau ysgolion. Roedd yr arolwg yn cynnwys fformatiau papur ac ar-lein ac yn gofyn i gyfranogwyr fynegi eu barn ar  effaith ganfyddedig newidiadau deddfwriaethol arfaethedig Llywodraeth Cymru.

Er ei fod yn arolwg agored, targedwyd y cynulleidfaoedd a ganlyn yn bennaf:

-          Rhieni a gwarcheidwaid

-          Athrawon (o fewn sector addysg Cymru)

-          Plant a phobl ifanc o oedran ysgol

Ystadegau Allweddol

Cyfanswm Nifer yr Ymatebion a Gafwyd: 430

Cyfanswm Nifer yr Ymatebion a Gafwyd Ar-lein: 346

Cyfanswm Nifer yr Ymatebion a Gafwyd ar Bapur: 84


 

Crynodeb o'r Ymatebion

Cwestiwn 1 - 1) Yn eich barn chi, a yw cael dyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol ar adegau gwahanol mewn gwahanol rannau o Gymru:

-          Yn ei gwneud yn fwy cyfleus i chi: 64 (15.0%)

-          Yn ei gwneud yn anghyfleus i chi: 158 (37.1%)

-          c. Nid yw’n cael unrhyw effaith arnaf: 204 (47.9%)

Cafodd 33 o sylwadau eu gwneud yn amlygu'r agweddau negyddol ar y trefniadau presennol, yn cynnwys:

-          17 o sylwadau ar y gost a'r ddarpariaeth o ofal plant

-          12 o sylwadau ar yr anawsterau a geir yn sgîl dyddiadau tymor gwahanol o ran treulio amser gyda theulu a ffrindiau

-          Nododd tri pherson fod dyddiadau tymor gwahanol yn atal eu plant rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau traws-sirol

-          Amlinellodd un person yr anawsterau o weithio gydag eraill o fewn y maes Addysg

Cafwyd 12 o sylwadau'n amlygu'r agweddau cadarnhaol ar y trefniadau presennol, yn cynnwys:

-          Amlygodd chwe pherson y manteision o gymryd gwyliau ar adegau tawel

-          Nododd chwe pherson fod y cyfleusterau a ddefnyddir gan blant yn llai prysur ar adegau pan fo rhai ysgolion ar wyliau ac eraill ddim

-          Gwnaed dau sylw yn awgrymu na fyddai safoni dyddiadau tymhorau'n cael fawr o effaith, os o gwbl

Cwestiwn 2 - Yn eich barn chi, a yw cael dyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol ar adegau gwahanol mewn gwahanol rannau o Gymru:

-          Yn cynyddu costau personol i chi: 98 (23.0%)

-          Yn lleihau costau personol i chi: 54 (12.7%)

-          Nid yw'n cael unrhyw effaith ar eich costau personol: 274 (64.3%)

O'r sylwadau a wnaed:

-          Awgrymodd 12 sylw fod costau gofal plant yn ddrutach oherwydd y trefniant presennol

-          Awgrymodd pedwar o'r sylwadau a gafwyd fod y trefniadau presennol yn ei gwneud yn rhatach mynd ar wyliau

-          Awgrymodd pedwar person y byddai gwneud unrhyw newidiadau'n cael ychydig iawn o effaith

-          Amlygodd tri pherson yr anawsterau logistaidd a geir yn sgîl dyddiadau tymhorau a gwyliau amrywiol


 

Cwestiwn 3 - 3) A fyddai’n well gennych chi pe bai dyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol yr un fath drwy Gymru?

-          Ydw: 260 (60.7%)

-          Nac ydw: 74 (17.3%)

-          Nid wyf yn sicr: 94 (22.0%)

Gwnaed 23 o sylwadau o blaid y broses o gysoni dyddiadau tymhorau a gwyliau ledled Cymru, yn cynnwys:

-          Saith sylw yn syml yn ailadrodd y byddai'n newid a groesewir

-          Chwe sylw yn awgrymu y byddant yn hoffi i ddyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol fod yn gyson â gweddill y DU

-          A phum sylw yn nodi y byddai'n ei gwneud yn haws trefnu gwyliau

Gwnaed cyfanswm o saith sylw yn erbyn cysoni dyddiadau tymhorau a gwyliau ledled Cymru, yn cynnwys:

-          Pedwar person yn nodi y gallai gynyddu costau gwyliau o bosibl

-          Dadleuodd tri pherson dros gadw pethau fel y maent heb egluro pam

Gwnaed cyfanswm o bum sylw ychwanegol, yn cynnwys:

-          Dau sylw yn hyrwyddo gwyliau byrrach, mwy gwasgarog, drwy gydol y flwyddyn

-          Dau sylw yn awgrymu y dylai'r broses o gysoni dyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol fod yn gymwys i ardaloedd awdurdodau lleol unigol (yn hytrach na ledled Cymru)

-          Ac un sylw yn galw am wyliau hwy

Cwestiwn 4 - 4) A gredwch bod unrhyw resymau penodol pam y byddai rhai ysgolion am osod dyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol ar adegau gwahanol i’r mwyafrif o ysgolion yng Nghymru?

O'r sylwadau a wnaed:

-          Dywedodd 74 nad oeddent yn gwybod am unrhyw reswm y byddai ysgolion am bennu dyddiadau gwahanol i eraill ledled Cymru

-          Nododd 39 o bobl resymau crefyddol

-          Nododd 26 hyblygrwydd

-          Dywedodd 22 er mwyn cael manteisio ar wyliau rhatach

-          Awgrymodd 16 ei bod yn gwneud synnwyr i dymhorau ysgol gael eu safoni

-          Awgrymodd 15 oherwydd digwyddiadau lleol/rhanbarthol

-          Nododd tri er mwyn gwneud iawn am y dyddiau a gollir oherwydd tywydd drwg

-          Nododd un person yr un: rhesymau ariannol, darparu ar gyfer tymhorau hwy i dwristiaid, a thraddodiadau ysgolion preifat.

-          Gwnaed nifer o sylwadau unigol hefyd yn awgrymu y gallai safoni dyddiadau wella presenoldeb, y dylai dyddiadau fod yr un fath yng Nghymru ac yn Lloegr ac na ddylai ysgolion crefyddol gael eu trin yn wahanol i ysgolion eraill.


 

Cwestiwn 5 - A ddylai rhai ysgolion, er enghraifft, ysgolion ffydd, fedru pennu dyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol eu hunain?

-          Dylent 106 (25.0%)

-          Na ddylent 209 (49.3%)

-          Efallai 109 (25.7%)

O'r sylwadau a wnaed:

-          Nododd 22 mai dim ond gwyliau crefyddol ddylai gyfrif fel rhesymau y dylai rhai ysgolion allu pennu eu dyddiadau eu hunain

-          Anghytunodd 18 gan nodi na ddylid cael unrhyw eithriadau

-          Roedd chwe pherson am ddiddymu ysgolion ffydd

-          Gwnaed dau sylw yn awgrymu y dylai pob ysgol bennu ei dyddiadau ei hun

-          Dywedodd dau y dylai ysgolion allu pennu eu dyddiadau eu hunain ar gyfer digwyddiadau lleol/rhanbarthol pwysig.  

-          Nododd un person y dylai pob ffydd, nid y ffydd Gristnogol yn unig, allu pennu ei dyddiadau ei hun.

-          Nododd un person ei bod yn bwysig bod athrawon a phlant yn cael digon o seibiant o'r ysgol, ac mai hynny ddylai fod y flaenoriaeth.


 

Cwestiwn 6 - A ddylai Llywodraeth Cymru fedru penderfynu ar ddyddiadau tymhorau ysgol, a phan na fydd Awdurdodau Lleol a Chyrff Llywodraethu’n gallu cytuno â’i gilydd?

-          Dylai:  274 (64.6%)

-          Na ddylai: 63 (14.9%)

-          Efallai: 87 (20.5%)

O'r sylwadau a wnaed:

-          Gwnaed 15 o sylwadau o blaid ymyrraeth Llywodraeth Cymru

-          Awgrymodd 13 o sylwadau y dylid dod i gytundeb heb ymyrraeth Llywodraeth Cymru

-          Roedd pum sylw o blaid cytundeb ond nad oeddent yn cytuno ag ymyrraeth Llywodraeth Cymru

-          Nododd dau sylw y byddai'n well ganddynt i awdurdodau lleol wneud y penderfyniad

-          Roedd yn well gan un i gyrff llywodraethu benderfynu

-          Roedd yn well gan un i gorff annibynnol benderfynu

-          Ac awgrymodd un mai penaethiaid ddylai wneud y penderfyniad.


 

Cwestiwn 7 - Os byddai tymhorau ysgol yr un fath drwy Gymru, a ydych o’r farn y dylid cael rhai eithriadau – er enghraifft, pan fydd digwyddiadau o bwys yn cael eu cynnal mewn rhanbarth?

-          Dylai:  243 (57.0%)

-          Na ddylai: 94 (22.1%)

-          Efallai: 89 (20.9%)

O'r sylwadau a wnaed:

-          Nododd 28 o sylwadau y dylid cael eithriadau ar gyfer digwyddiadau o bwys

-          Nododd 10 o bobl na ddylid cael unrhyw eithriadau o gwbl

-          Dywedodd naw person y dylid cael eithriadau ond ni wnaethant nodi rhesymau pam

-          Dywedodd pum person y dylid cael eithriadau yn dibynnu ar natur y digwyddiad

-          Nododd tri pherson y dylai Llywodraeth Cymru ystyried digwyddiadau o bwys wrth bennu dyddiadau tymhorau ysgol

-          Dywedodd dau y dylai ysgolion bennu eu heithriadau eu hunain


 

Cwestiwn 8 - A oes gennych unrhyw deimladau neu safbwyntiau eraill?

 

O'r sylwadau a wnaed:

-          Nododd 52 eu bod yn cytuno â'r egwyddor o safoni dyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol

-          Awgrymodd 27 o bobl y dylid cael gwyliau byrrach ac amlach wedi'u gwasgaru

-          Nododd 12 o bobl eu bod o'r farn y byddai hyn yn arwain at gostau gwyliau rhatach

-          Nododd naw person y byddent am i ysgolion gadw'r hyblygrwydd hwnnw i bennu eu dyddiadau tymhorau a gwyliau eu hunain

-          Dadleuodd naw person y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar safonau

-          Nododd chwe pherson y dylid gadael y sefyllfa bresennol fel y mae

-          Gwnaed chwe sylw y dylai diwrnodau HMS fod yn gyson ledled Cymru

-          Gwnaeth pum person sylw ynghylch y gost a'r ddarpariaeth o ofal plant

-          Gwnaeth un person sylw ar yr angen am fwy o weithgareddau i blant yn ystod y gwyliau

-          Gwnaeth un person y pwynt bod gormod o awdurdodau lleol yng Nghymru

-          Nododd un person fod y newidiadau'n wastraff arian


 

Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Ymgynghoriad ar y Bil Addysg (Cymru): Cofrestru'r Gweithlu Addysg

Crynodeb o'r dystiolaeth o'r grwpiau ffocws:

Lluniwyd y papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil at ddefnydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gareth England o'r Gwasanaeth Ymchwil drwy ffonio
 estyniad 8096
E-bost:
gareth.england@cymru.gov.uk

Cefndir

Yn ystod mis Medi 2013, fel rhan o ymgynghoriad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar y Bil Addysg (Cymru), cynhaliodd Tîm Allgymorth y Cynulliad Cenedlaethol nifer o grwpiau ffocws i gael barn ar yr agwedd gofrestru ar y Bil, sef y darpariaethau sy'n ymwneud â Chyngor y arfaethedig Gweithlu Addysg a chofrestru a rheoleiddio athrawon a'r gweithlu addysg ehangach.

Cynhaliwyd grwpiau ffocws yng ngogledd a de Cymru, gyda'r tîm Allgymorth yn targedu aelodau undebau llafur y byddai angen iddynt gofrestru o dan ddarpariaethau'r Bil, cynorthwywyr dosbarth, gweithwyr ieuenctid a thiwtoriaid dysgu yn seiliedig ar waith. Roedd y cyfyngiadau amser ar ran y gynulleidfa darged a'r anawsterau sy'n gysylltiedig â chynnal ymgynghoriad yn ystod misoedd yr haf yn golygu nad oedd nifer o'r sefydliadau y cysylltwyd â hwy yn gallu cymryd rhan yn y rhaglen grwpiau ffocws.

Cynhaliwyd dau grŵp ffocws gyda dau sefydliad cyfranogi gwahanol: (a) aelodau o UNSAIN a (b) gweithwyr ieuenctid o Wasanaeth Ieuenctid Wrecsam. Roedd cyfranogwyr y grwpiau ffocws yn cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd o fewn y gweithlu addysg ehangach, yn cynnwys gweithwyr ieuenctid, cynorthwywyr dosbarth, cynorthwywyr cymorth dysgu a thiwtoriaid. Gyda'i gilydd roedd 11 o gyfranogwyr.

Mae'r adran a ganlyn yn rhoi crynodeb o'r prif ganfyddiadau.

 

 

 

 

 

 

Cofrestru'r gweithlu addysg

Cwestiwn 1 - A ydych yn ystyried eich hun fel rhywun sy’n gweithio yn y ‘gweithlu addysg’?

Roedd y ddau grŵp - aelodau UNSAIN a'r gweithwyr ieuenctid o Wrecsam - o'r farn eu bod yn rhan o'r gweithlu addysg. Roedd natur y gwaith a wnaed gan aelodau'r grŵp yn rhan o'r system addysg a theimlai grwpiau eu bod yn cael eu hystyried yn bartneriaid a rhan o'r ddarpariaeth addysg ehangach.

 

Cwestiwn 2 - Ydych chi eisiau cofrestru gyda chorff cofrestru proffesiynol, fel y mae athrawon yn ei wneud ar hyn o bryd?

Roedd y dddau grŵp o blaid cofrestru gyda chorff proffesiynol. Teimlwyd yn gyffredinol y byddai bod yn aelod o gorff o'r fath yn gwella'r gydnabyddiaeth o alwedigaethau fel gwaith ieuenctid, i'r un lefel ag addysgu. Teimlwyd hefyd y byddai bod yn aelod o sefydliad proffesiynol yn sicrhau atebolrwydd ar gyfer y galwedigaethau gan sicrhau y byddai'r rheini sy'n gweithio o'u mewn yn glynu at bolisïau, gweithdrefnau a chodau ymddygiad.

Cododd nifer o themâu o'r grwpiau; roedd cymwysterau yn y broses gofrestru yn un ohonynt. Teimlodd un grŵp y byddai angen pennu cymhwyster gofynnol er mwyn cael eich cydnabod gan y corff proffesiynol. Yn ei dro, cododd hyn y cwestiwn o gynrychiolaeth ar gyfer y rheini sy'n gweithio o fewn yr alwedigaeth nad oedd ganddynt gymwysterau ac a fyddai hyn yn creu grŵp o bobl a fyddai'n cael eu heithrio o fod yn aelodau. Fodd bynnag, nodwyd hefyd y gellid defnyddio cymhwyster gofynnol o'r fath i wella safonau ac annog cyflogeion i weithio tuag at gael cymwysterau.

Trafodwyd hefyd y diffiniad o swyddi o fewn yr alwedigaeth a'r amwysedd y gellid ei greu yn sgîl hyn wrth benderfynu pwy all ymuno â'r sefydliad. Cafodd y pwynt y gall y term 'gweithiwr ieuenctid' fod yn gymwys i wirfoddolwr a gweithiwr proffesiynol o safon gradd ei grybwyll mewn perthynas â hyn, yn ogystal â'r mater o ran pobl sy'n cyflawni rolau tebyg y tu allan i'r gweithlu addysg. Yn yr un modd, gall yr amrywiaethau rhwng y rolau a'r cyfrifoldebau a gyflawnir gan unigolion sydd wedi'u cymhwyso i'r un lefel amrywio rhwng awdurdodau lleol fel y gall cyllidebau ysgolion ac adnoddau ar gyfer hyfforddi staff, a theimlwyd y dylid ystyried yr anghysondebau hyn fel rhan o'r broses o sefydlu unrhyw gorff proffesiynol newydd.

 

Cwestiwn 3 - Sut glywsoch chi am y cynnig i gofrestru math ychwanegol o weithwyr yn y gweithlu addysg ac a oeddech yn ymwybodol o unrhyw ymgynghoriad?

Roedd lefel yr ymwybyddiaeth o'r cynigion a'r ymgynghoriad yn amrywio ymhlith y cyfranogwyr, ac ychydig o ymwybyddiaeth, os o gwbl, oedd gan fwyafrif y cyfranogwyr o'r cynlluniau neu'r ymgynghoriad hyd nes y cysylltwyd â hwy fel rhan o'r broses allgymorth.

Roedd rhai'n ymwybodol o gynlluniau tybiannol ar gyfer creu corff newydd er bod rhywfaint o ddryswch o ran graddau cynrychiolaeth y corff e.e. yn cynnwys pobl fydda'n gweithio ym maes addysg uwch.

Cwestiwn 4 - Ydych chi’n cytuno â Llywodraeth Cymru ei fod yn ymddangos yn anghyson bod yn rhaid i athrawon gofrestru ond nad oes angen i weithwyr proffesiynol eraill yn y gweithlu addysg wneud hynny? 

Cafwyd cytundeb cyffredinol ar y pwynt hwn. Teimlwyd y byddai hyn yn gwella cysondeb yn y ffordd y mae gweithwyr sydd â lefelau tebyg o gymwysterau yn cael eu trin ac y byddai cynrychiolaeth o ran safonau proffesiynol a statws o fewn yr alwedigaeth.

Codwyd hefyd yn yr ymatebion bwynt ynghylch i ba raddau y byddai'r manteision hyn yn ymestyn i'r galwedigaethau gwahanol, sef a fyddai'r gweithlu addysg ehangach yn cael yr un lefel o gefnogaeth ag athrawon o ran materion fel hyfforddiant a datblygiad a chyfrinachedd a chynrychiolaeth mewn amgylchiadau eithriadol? e.e. achosion amddiffyn plant.

 

Cwestiwn 5 - Bydd gan y corff cofrestru newydd gyfrifoldebau am roi cyngor a hyrwyddo gyrfaoedd i’r holl weithlu addysg, ac am drefniadau ymsefydlu ac arfarnu.   Ydych chi’n credu y byddai hyn o fantais i bobl sy’n gweithio ym myd addysg fel chi? Beth fyddai’r manteision neu anfanteision posibl yn eich barn chi?  Beth ydych chi'n ei feddwl y gallai'r manteision a'r anfanteision posib fod?  Ydych chi'n meddwl y byddai hyn yn cael effaith cadarnhaol neu negyddol ar bobl sy'n gweithio ym maes addysg fel rydych chi?

Roedd teimlad ymhlith y grwpiau ffocws y byddai'r corff proffesiynol yn cael effaith gadarnhaol o ran dilyniant gyrfa ac y byddai'n helpu i hyrwyddo cysondeb a safonau ar draws yr awdurdodau lleol.  Roedd hyn yn cynnwys y mater ynghylch tâl teg i staff sy'n adlewyrchu eu cymwyseddau a'u cyfrifoldebau, yn ogystal â'r mater ehangach o hyrwyddo gwaith ieuenctid fel galwedigaeth. Mynegodd un grŵp hefyd y posibilrwydd o gael statws tebyg i'r ANG (Athro Newydd Gymhwyso) ar gyfer gweithwyr ieuenctid.

Mynegodd un grŵp ffocws yr anfanteision posibl ynghylch materion trawsffiniol ac a fyddai glynu at system y DU gyfan yn fwy buddiol o ran llifau trawsffiniol o weithwyr. Gwnaed cymariaethau â system yr Alban lle byddai'n rhaid i'r rheini sydd am weithio yn yr Alban ddangos cymwyseddau a chael hyfforddiant yn unol â chanllawiau'r Alban. Teimlwyd y byddai llwyddiant unrhyw system debyg yng Nghymru yn dibynnu'n fawr ar safonau a chosteffeithiolrwydd yr hyfforddiant a ddarperir yng Nghymru.


 

Cwestiwn 6 - Faint o ffi cofrestru y credwch y byddai’n rhesymol i bobl dalu? 

Cwestiwn 7 - Ydych chi’n credu y dylai’r ffi cofrestru hon fod yn amrywiadwy yn seiliedig ar incwm, neu a ddylai fod gwahanol gyfraddau ar gyfer gwahanol gategoriau o waith neu a ddylai fod ffi safonol i bawb?

Roedd amrywiaeth barn ymhlith y cyfranogwyr mewn perthynas ag unrhyw ffi gofrestru. Dadleuodd rhai aelodau o un o'r grwpiau ffocws na ddylid cael unrhyw ffi i ymuno, ond derbyniwyd yn gyffredinol y byddai rhyw lefel o ffi yn briodol.

Roedd barn y rheini a oedd yn cytuno ar godi ffi yn amrywio ynghylch sut y dylid ei chyfrifo. Teimlai un grŵp y dylai amrywio yn unol â gradd y gweithiwr tra teimlai'r grŵp arall y dylai fod yn seiliedig ar incwm, gan ddadlau y byddai'n anodd cynnal ffi sy'n seiliedig ar gategorïau gwahanol o waith oherwydd y diffyg cysondeb o ran arferion awdurdodau lleol yng Nghymru.

Fodd bynnag, cytunwyd y dylid sicrhau cydraddoldeb o fewn y galwedigaethau, ac y dylai unrhyw gymorthdaliadau ar gyfer staff penodol e.e. athrawon, gael eu hadlewyrchu o fewn y galwedigaethau eraill sy'n cael tâl is. Teimlai un grŵp y dylai hyn hefyd fod yn gymwys i fudd-daliadau eraill, e.e. rhyddhad treth ar ffioedd undebau llafur.

Teimlwyd y gallai cylch gwaith wedi'i ehangu unrhyw gorff proffesiynol newydd arwain at adolygu lefelau presennol y cyfraniadau er mwyn gallu cefnogi gwaith y corff. Er enghraifft, pe byddai lefelau presennol yr hyfforddiant sydd ar gael i athrawon yn cael eu hadlewyrchu hefyd yn y galwedigaethau ehangach, byddai goblygiadau i hynny yng nghyswllt ffioedd cofrestru.

 

Materion eraill - penodi'r corff proffesiynol

Cododd un grŵp ffocws y mater ynghylch sut y caiff y corff proffesiynol newydd ei hun ei benodi a'i recriwtio. Nododd y grŵp yr hoffent weld proses drylowy, ddemocrataidd o recriwtio, gan awgrymu y dylai'r Cynulliad ei hun fod yn rhan o'r broses recriwtio, nid y llywodraeth ar y pryd yn unig.

 

Rhestr o grwpiau ffocws:

Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam

UNSAIN


 

 

Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Ymgynghoriad ar y Bil Addysg (Cymru): darpariaeth AAA ôl-16

Crynodeb o'r dystiolaeth o'r grwpiau ffocws:

Lluniwyd y papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil at ddefnydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gareth England o'r Gwasanaeth Ymchwil drwy ffonio
 estyniad 8096
E-bost:
gareth.england@cymru.gov.uk

Cefndir

Yn ystod mis Medi 2013, fel rhan o ymgynghoriad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar y Bil Addysg (Cymru), cynhaliodd Tîm Allgymorth y Cynulliad Cenedlaethol nifer o grwpiau ffocws i gael barn ar yr agwedd darpariaeth AAA ôl-16 ar y Bil, sef y darpariaethau sy'n ymwneud â'r asesiad ôl-16 o anghenion ychwanegol o ran addysg a hyfforddiant. Mae'r darpariaethau hyn yn cynnig rhoi cyfrifoldebau ychwanegol i awdurdodau lleol dros asesu anghenion dysgwyr ôl-16 sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a sicrhau darpariaeth ar eu cyfer.

Cynhaliwyd grwpiau ffocws yng ngogledd a de Cymru, gyda'r tîm Allgymorth yn targedu cydgysylltwyr anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion a staff mewn adrannau addysg awdurdodau lleol y gallai'r darpariaethau effeithio arnynt. Cysylltwyd â 13 o adrannau awdurdodau lleol i gymryd rhan yn y grwpiau ffocws. Roedd y cyfyngiadau amser ar ran y gynulleidfa darged a'r anawsterau sy'n gysylltiedig â chynnal ymgynghoriad yn ystod misoedd yr haf yn golygu nad oedd nifer o'r sefydliadau y cysylltwyd â hwy yn gallu cymryd rhan yn y rhaglen grwpiau ffocws.

Cynhaliwyd pedwar grŵp ffocws, yn cynnwys pum awdurdod lleol cyfranogi gwahanol: Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Sir Fynwy, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam. Roedd cyfranogwyr y grwpiau ffocws yn cwmpasu amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol a oedd yn gweithio ym maes AAA o fewn yr awdurdodau, yn cynnwys cydgysylltwyr AAA, Penaethiaid Gwasanaeth a seicolegwyr addysgol. Gyda'i gilydd roedd 24 o gyfranogwyr.

Mae'r adran a ganlyn yn rhoi crynodeb o'r prif ganfyddiadau.


 

Darpariaeth AAA ôl-16

Cwestiwn 1 - A ydych yn credu bod unrhyw broblemau gyda’r ffordd y mae darpariaeth arbenigol ôl-16 yn cael ei mesur ac yna ei darparu ar hyn o bryd, ac os fellym beth ydynt?

Cododd nifer o themâu allweddol mewn ymateb i'r cwestiwn hwn. Ymhlith y rhain roedd gweithio trawsasiantaethol, yn cynnwys y cyfathrebu rhwng awdurdodau lleol, ysgolion a Gyrfa Cymru. Nododd un grŵp fod problemau'n aml gyda chyfathrebu rhwng sefydliadau, gan olygu nad oedd pawb bob amser yn cael y wybodaeth ddiweddaraf. Nododd un grŵp fod cyfathrebu llawer yn well rhwng ysgolion ac awdurdodau lleol na rhwng ysgolion a Gyrfa Cymru.

Gwnaeth rôl Gyrfa Cymru ei hun arwain at rywfaint o sylwadau hefyd, gydag un grŵp yn dibynnu'n fawr ar ei arbenigedd i leoli myfyrwyr, gan deimlo bod gofyn iddo (GC) ymdrin â llwyth gwaith cynyddol â llai o gyllid. Nododd grŵp arall y byddai symud rôl Gyrfa Cymru o fewn yr awdurdod lleol yn creu adran hollol newydd, i bob pwrpas, ond o ran logisteg y gallai wneud y broses gyfan yn symlach; y prif fater fyddai sicrhau'r arbenigedd perthnasol o fewn yr awdurdod lleol. Cafodd y ffaith nad oes fframwaith cyfreithiol wrth drosglwyddo cyfrifoldeb dros bobl ifanc yn ystod y cyfnod pontio i Gyrfa Cymru ei godi fel mater hefyd. Cafodd y cynigion blaenorol ar gyfer 'gweithiwr allweddol' a fyddai'n cefnogi myfyrwyr yn ystod y cyfnod pontio hwn eu crybwyll gan un grŵp yn rhywbeth a fyddai'n gwella'r sefyllfa bresennol. 

Cafodd y mater o amseru ei godi hefyd, gyda dau grŵp yn nodi fod yr amser sy'n mynd heibio rhwng ceisiadau am leoliadau a phenderfyniadau hwyr i'w hariannu yn creu problemau, a bod y broses o nodi nifer sylweddol o ddatganiadau'n hwyr yn golygu bod llawer yn cael eu gwneud ychydig cyn dechrau'r tymor ysgol. Roedd hyn yn cael effaith ar yr ymgais i ddarparu'r lleoedd angenrheidiol, gan achosi ansicrwydd i fyfyrwyr a'u teuluoedd.

Cafodd materion o ran galluhefyd eu nodi yn yr adran hon, gydag un grŵp yn nodi fod cydgysylltwyr AAA ysgolion yn cael eu hymestyn. Nodwyd y bydd angen i rai myfyrwyr nad oes ganddynt ddatganiad blaenorol gael asesiad cyn addysg ôl-16 ac y gall hyn greu pwysau o ran amser ac adnoddau i awdurdodau lleol. Nodwyd bod y gwahaniaeth yn lefel y gefnogaeth ar gyfer AAA ôl-16 a phlant oedran ysgol hefyd yn fater, gydag un grŵp yn nodi fod y rheini sy'n cael eu hadnabod yn gynnar yn cael eu cefnogi'n well.

 

Cwestiwn 2 - A ydych yn credu bydd rhoi mwy o rôl i awdurdodau lleol o ran dysgwyr ôl-16 yn rhoi gwell dilyniant a chyfnod pontio i ddysgwyr ym maes addysg bellach?  

Cododd nifer o themâu eang o'r cwestiwn hwn, gyda chydsyniad cyffredinol rhwng y grwpiau ar brif effeithiau unrhyw rôl fwy ar gyfer awdurdodau lleol. Roedd y prif faterion yn ymwneud â gallu a goblygiadau ariannol y cynigion.

Nododd nifer o grwpiau y byddai gorfod asesu myfyrwyr hyd nes eu bod yn 25 oed yn golygu cynnydd sylweddol yn y baich gwaith, gydag un grŵp yn dweud na fyddent yn gallu cyflawni'r rôl ar hyn o bryd. Teimlai'r rhan fwyaf o'r grwpiau bod angen craffu ar effaith ariannol y cynlluniau gan y byddai unrhyw faich gwaith ychwanegol yn cael effaith ar gyllidebau.

Cafodd y mater ynghylch arbenigedd staff hefyd ei grybwyll gan nifer o'r grwpiau. Teimla llawer nad oedd gan yr awdurdod lleol yr arbenigedd ar hyn o bryd i gyflawni cylch gwaith ehangach y Bil. Cafodd prinder y staff arbenigol mewn rolau allweddol, e.e. seicolegwyr addysgol, hefyd ei grybwyll. Amlinellwyd hefyd yr arbenigedd a ddarperir gan Gyrfa Cymru ar hyn o bryd a'r anawsterau o gopïo'r gwaith hwn o fewn awdurdodau lleol. Nododd un grŵp ei bod yn debyg mai awdurdodau lleol fyddai yn y sefyllfa orau i gyflawni'r gwaith hwn ond y byddai angen buddsoddiad sylweddol mewn staff a'r gwaith o ddatblygu arbenigedd newydd. O ganlyniad i hyn, nododd grwpiau fod yr hyfforddiant sydd ar gael i ddatblygu staff presennol a llenwi'r bwlch sgiliau presennol mewn awdurdodau lleol yn ffactor allweddol hefyd. Cafodd natur yr asesiad ei hun hefyd ei grybwyll gan un grŵp yn y cyd-destun hwn, gyda diffyg eglurder ynghylch pa wybodaeth y byddai ei hangen fel rhan o'r gwaith o asesu AAA hyd at 25 oed.

Cafodd gweithio amlasiantaetholei grybwyll gan y grwpiau, gyda llawer yn nodi fod nifer o awdurdodau lleol yn gwneud llawer o'r gwaith hwn ar hyn o bryd gyda'r consortiwm yn arwain y ffordd. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag awdurdodau lleol eraill yn ogystal â gweithwyr iechyd proffesiynol, adrannau gwasanaethau cymeithasol a Gyrfa Cymru. Cafwyd sylwadau ynghylch sut y byddai'r cynigion yn effeithio ar drefniadau fel y rhain, a chytunodd un grŵp y dylid cynnwys gweithio amlasiantaethol yn y bil er mwyn sicrhau cysondeb. Cafwyd pryderon hefyd y gallai dealltwriaeth leol Gyrfa Cymru gael ei cholli a theimla rhai grwpiau y dylai GC barhau i gael rôl o dan unrhyw gynlluniau newydd.

Ar gyfer nifer o grwpiau, roedd gweithio trawsffiniol hefyd yn broblem. Teimlwyd nad oedd yn glir pa effaith y byddai'r darpariaethau'n eu cael pe byddai person ifanc yn symud i awdurdod lleol arall neu i Loegr.

Gwnaeth y grwpiau sylw hefyd ar y diffyg eglurder o ran y cyfnod pontio. Gofynnodd un grŵp am eglurhad ar y pwynt pan newidir o wasanaethau i blant i wasanaethau i oedolion a chafwyd ymholiadau hefyd ynghylch cyfrifoldeb pwy fyddai i ddarparu datganiadau mewn rhai amgylchiadau, e.e. pe byddai myfyriwr am fynd i weithio ar adeg y datganiadau ôl-16 ac ôl-25.

 

Cwestiwn 3 - Gall colegau addysg bellach prif ffrwd sy’n gallu diwallu anghenion dysgwyr AAA wneud cais uniongyrchol i Lywodraeth Cymru am gyllid atodol er mwyn diwallu anghenion dysgwyr yn hytrach na gwneud cais i’r cyngor am yr arian hwn.  Mae Llywodraeth Cymru eisiau i geisiadau am gyllid atodol barhau yn y modd hwn.  Oes gennych chi farn am hyn?  Oes gennych farn ar hyn?

Cafwyd barn gymysg gan y grwpiau ar y cwestiwn hwn. Teimlai un grŵp po leiaf oedd yn gorfod cael ei reoli'n ganolog gan yr awdurdod lleol, y gorau, gyda grŵp arall yn ffafrio parhau gyda'r system bresennol ond gyda chynllunio gwell a chyllid wedi'i neilltuo.

Fodd bynnag, nododd grŵp arall os mai diben y Bil oedd dod â dyletswydd darpariaeth AAA ôl-16 o dan nawdd awdurdodau lleol, yna dylai unrhyw adnoddau ar gyfer ceisiadau am gyllid atodol gael eu rhoi iddynt hefyd. Cafodd yr anghysondebau yn gyffredinol o ran y cyllid a ddarperir i ddysgwyr AAA hefyd eu crybwyll gan un grŵp. 

 

Cwestiwn 4 - Mae’r darpariaethau yn y Bil o ran dysgwyr ôl-16 yn un rhan o ymgynghoriad ehangach a gynhaliwyd yn 2012 ar ddiwygio’r fframwaith AAA a rhoi sail gyfreithiol i’r cydsyniad o ‘anghenion dysgu ychwanegol’.   Oes gennych chi farn ynghylch a ddylai hyn i gyd fod wedi cael ei gyfuno mewn un darn o ddeddfwriaeth yn hytrach na chynnwys yr elfennau ôl-16 ar wahân yn y Bil Addysg (Cymru)? Oes gennych farn ar p'un a ddylai hyn i gyd fod wedi'i gyfuno mewn un darn o ddeddfwriaeth yn hytrach na'r elfennau ôl-16 yn cael eu datblygu ar wahân yn y Bil Addysg (Cymru)?

Teimlai pob grŵp y byddai'n well pe byddai pob darpariaeth a oedd yn ymwneud ag AAA wedi'i hymgorffori mewn un darn o ddeddfwriaeth a allai amlygu diwygiad ehangach y fframwaith AAA. Fodd bynnag, cydnabu un grŵp y gallai darn o ddeddfwriaeth o'r fath fod yn anferth o bosibl.

 

Cwestiwn 5 - A hoffech roi sylwadau am y modd y caiff anghenion dysgwyr eu diwallu, yn arbennig rhai ôl-16?

Nododd dau grŵp y pwysigrwydd o ddarpariaeth leol gan fynegi barn y dylai mwy fod ar gael ledled Cymru. Teimlai rhai nad oedd llawer ar gael; er bod yr arbenigedd ar gael yng Nghymru, nid oedd y gallu ffisegol ar gael. Dywedodd grŵp arall mai lleiafrif y myfyrwyr oedd yn cael problemau dod o hyd i gwrs addas, ond bod problemau o ran rhai pobl ifanc yn gorfod teithio'n bell i ddiwallu eu hanghenion a bod problemau ynghylch darpariaeth iaith Gymraeg.

Nododd un grŵp nad oes unrhyw leoedd preswyl ar gael i bobl ifanc yng Nghymru, ac felly byddai'n rhaid i fyfyrwyr y mae arnynt angen lle preswyl mewn ysgol neu goleg ar gyfer addysg ôl-16 fynd i Loegr, gan arwain o bosibl at symud y person ifanc o'i gymuned, ei deulu a'r gwasanaethau ehangach sydd ar gael i bobl ifanc o fewn ei awdurdod lleol.

Roedd amrywiaeth y cwricwlwm sydd ar gael i ddysgwyr AAA ôl-16 yn fater a godwyd gan rai o'r cyfranogwyr a oedd yn teimlo y dylai mwy o gyrsiau 'galwedigaethol' fod ar gael. Nododd grŵp arall fod tangynrychiolaeth o gyrsiau sydd ar gael i'r rheini sydd â chyflyrau penodol, e.e. Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig. Gwnaethant hefyd sôn am bwysigrwydd sicrhau y bydd y ddarpariaeth AAA ôl-16 yn addas ar gyfer y dyfodol fel bod gwasanaethau mewn blynyddoedd i ddod yn briodol i'r rheini sydd â'r anableddau corfforol a gwybyddol mwyaf difrifol. Ar hyn o bryd, ychydig iawn o leoedd sydd ar gael i bobl ifanc o'r fath.

Ymhlith y materion eraill a godwyd roedd y 'maes amhendant' o ran pobl ifanc ôl-16 nad oes ganddynt ddatganiadau; y dylai pwysigrwydd o ran darpariaeth AAA o ran rhoi seibiant i rieni gael ei adlewyrchu yn y Bil; ac nad oedd llawer o rieni'n barod i dderbyn fod gan blentyn ddatganiad AAA a'u bod yn gofyn i'w plant gael dilyn addysg prif ffrwd, nad oedd bob amser yn bosibl.

At hynny, cododd nifer o faterion mewn ymateb i'r cwestiwn hwn a oedd wedi'u crybwyll yn flaenorol. Cafodd y mater o ran y cyfnod pontio rhwng gwasanaethau i blant a gwasanaethau i oedolion ei grybwyll eto, gyda dau grŵp yn ailadrodd y manteision o gael 'gweithiwr allweddol' ar y cam hwn. Roedd teimlad fod angen i'r cyfnod pontio fod yn ddi-dor. Yn yr un modd, cafodd y pwysigrwydd o weithio amlasiantaethol gwell, consortia a chydweithredu gwell hefyd ei ystyried yn bwysig gan dri o'r grwpiau. Cafodd y fantais o ddealltwriaeth arbenigol canolfannau rhanbarthol Gyrfa Cymru ei chrybwyll hefyd.

 

Cwestiwn 6 - Pa newidiadau yr hoffech chi weld Llywodraeth Cymru yn eu gwneud?

Ymatebodd nifer o'r grwpiau i'r cwestiwn hwn mewn perthynas â'r Bil. Ailadroddodd un y ffaith y byddai angen cynnal asesiad risg ariannol llawn mewn perthynas â hyfywedd y Bil, yn arbennig mewn perthynas â heriau posibl a thribiwnlys pan fo'r awdurdod lleol yn penderfynu yn erbyn asesu ar gyfer AAA. Galwodd grŵp arall am ymgynghori yn fwy cadarn, yn arbennig â rhieni pobl ifanc sydd ag AAA. Galwodd cyfranogwyr eraill am gael gadael digon o amser rhwng cyflwyno pob diwygiad fel bod y gwasanaethau dan sylw yn cael amser i ddadansoddi eu heffeithiolrwydd.

Nododd grwpiau eraill yr hoffent weld cysondeb yn null deddfwriaethol Llywodraeth Cymru; y dylai deddfwriaeth gynnwys codau ymarfer, fframweithiau, Offerynnau Statudol a gwaith trawsasiantaethol. Nodwyd hefyd y mater o ran bod yn gydnaws â'r ddeddfwriaeth yn Lloegr ar gyfer myfyrwyr sy'n croesi'r ffin i astudio.

Mewn perthynas â'r cwricwclwm, galwyd ar Lywodraeth Cymru i roi pwysau ar golegau i ddarparu amrywiaeth ehangach o gyrsiau a chwricwlwm mwy addas i fyfyrwyr AAA/Anghenion Dysgu Ychwanegol ôl-16. Roedd grŵp arall am i Lywodraeth Cymru ddeall yr anawsterau sy'n gysylltiedig â gweithio amlasiantaethol. Cafwyd sylwadau hefyd gan un grŵp fod y cyllid sydd ar gael ar gyfer prosiectau AAA/Anghenion Dysgu Ychwanegol arbenigol yn rhy anhyblyg ac y dylai fod yn haws gwneud cais amdano.

Cafwyd galwadau mwy cyffredinol hefyd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod gan awdurdodau lleol y gallu ariannol a ffisegol i gyflawni eu dyletswyddau o ran AAA ac i sicrhau y darperir digon o hyfforddiant i awdurdodau lleol.

 

Rhestr o grwpiau ffocws:

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyngor Sir Fynwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint



[*] (Noder bod y ddogfen hon yn cynnwys yr ymatebion a gyflwynwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg).